Mae’r cyhoedd yn cael eu rhybuddio rhag credu mai’r heddlu sy’n eu ffonio, wedi cyfres o alwadau ffug yn ardal de Cymru.

Gan gelu’r rhif cywir, mae galwyr wedi bod yn ffonio cartrefi yn y de gan honni bod yn blismyn ac yn dweud fod manylion banc yr atebwr wedi cael eu dwyn.

Mae’r galwr, wedyn, yn gofyn i’r person ben arall y ffôn fynd i’r banc i godi arian, er mwyn gwiro’r manylion a’r rhif PIN.

Amheus

Mae Heddlu De Cymru wedi derbyn galwadau gan nifer o bobol sydd wedi cael eu targedu gan y sgam.

“Gallwn gadarnhau nad ydi Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad fel hyn,” meddai llefarydd.

“Mae’n galonogol fod pobol yn ein ffonio hi gan eu bod nhw’n amheus o’r galwadau… ond mae yna bobol fregus eraill sydd angen eu rhybuddio.

“Dylai unrhyw un sy’n cael ei dargedu gysylltu gyda’r Adran Dwyll neu gyda Heddlu De Cymru yn syth bin.”