Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn farw ar ôl cwympo o ben to yn Aberdâr neithiwr.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal Tre Telynog tua 7 o’r gloch ar Ionawr 2, yn dilyn adroddiadau fod dyn 22 oed ar ben to adeilad.
Wedi i’r heddlu gyrraedd, fe syrthiodd y dyn oddi ar y to. Er iddo dderbyn triniaeth feddygol yn y fan a’r lle, bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar i unrhyw un welodd unrhyw beth cyn neu yn ystod y digwyddiad, i gysylltu ar y rhif 101, neu trwy ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.