Fabrizio Pulvirenti
Mae meddyg o’r Eidal wnaeth ddal Ebola ym mis Tachwedd tra’n gweithio yn Sierra Leone, wedi gadael ysbyty yn Rhufain ar ôl gwella o’r cyflwr.
Yn gwenu fel giât, fe ddywedodd Fabrizio Pulvirenti wrth ohebwyr y Wasg ei fod wedi ceisio dadansoddi ei symptomau tra’r oedd yn ddifrifol wael, a hynny er mwyn cadw ei feddwl yn finiog ag effro.
Bu’r meddyg yn cymryd yr un cyffuriau arbrofol ag sydd wedi eu defnyddio yn America ac Ewrop i geisio gwella cleifion sydd wedi eu heintio gydag Ebola.
Dr Pulvirenti oedd claf cynta’r Eidal i gael Ebola.
Ac mae’r meddyg yn ei 50au yn dweud y bydd yn ystyried dychwelyd i Sierra Leone unwaith y bydd wedi adennill ei gryfder yn llwyr.