Y Canghellor George Osborne yn dadorchuddio'r poster heddiw
Mae Prif Weinidog Prydain wedi dadorchuddio poster etholiadol dadleuol heddiw yn Halifax, Gorllewin Swydd Efrog.
Yn ogystal â brolio bod Llywodraeth Prydain wedi helpu i gael 1.75 miliwn yn fwy o bobol i’r gweithle a chreu 760,000 yn fwy o fusnesau, mae honiad dadleuol fod “y diffyg wedi ei hanneru”.
Mae hi’n wir bod y diffyg wedi ei hanneru os yw’n cael ei fesur fel canran o GDP.
Ond mewn termau ariannol mae’r gwahaniaeth rhwng incwm a gwariant y Llywodraeth – y diffyg – wedi gostwng tua traean.
Etholiad pwysica’ mewn cenhedlaeth
Fe ddywedodd y Prif Weinidog: “Rydw i yma heddiw i lansio’r poster gwych yma a nodi cychwyn blwyddyn etholiadol.
“Mae yn etholiad cwbwl hanfodol i’n gwlad, yr etholiad pwysicaf mewn cenhedlaeth yn fy marn i.”
Yn ôl David Cameron mae’n “hollbwysig” bod y Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad “am ei bod mor bwysig ein bod yn aros ar y llwybr sy’n arwain at economi gryfach.
“Aros ar y llwybr sy’n arwain at fwy o swyddi, aros ar y llwybr sy’n arwain at drethi is, aros ar y llwybr sy’n arwain at fwy o brentisiadau, aros ar y llwybr sy’n arwain at ysgolion cryfach ac aros ar y llwybr sy’n sicrhau diogelwch ac urddas yr henoed.”
Dywedodd bod unrhyw ddewis heblaw’r Ceidwadwyr am fod yn “drychinebus”.
Ond mae’r hen ben Ceidwadol Norman Tebbit wedi dweud y bydd hi’n “anodd iawn” i’w blaid ennill etholiad fis Mai oni bai bod Ukip yn mynd ar gyfeiliorn.
Ac yn ôl y Lib Dems mae cynllun economaidd y Ceidwadwyr yn debycach i “lwybr i uffern ar gyfer y mwyafrif o bleidleiswyr Prydain, gan bod y Torïaid eisiau mynd â’r Wladwriaeth Les nôl i’r 1930au”.