Mae disgwyl i’r nifer o gyplau sy’n gofyn i gael ysgaru fod ar ei uchaf ddydd Llun.

Yn draddodiadol dyma’r diwrnod pan mae’r awydd i wahanu ar ei gryfa’, a hynny’n dilyn gwyliau’r Nadolig.

Mae’r dydd Llun cynta’ ar ôl dathliadau’r Flwyddyn Newydd yn cael ei alw’n “Divorce Day”, ac yn ôl un cwmni cyfreithiol maen nhw’n derbyn 30% yn fwy o alwadau ynghylch ysgaru ar y diwrnod hwnnw.

Dengys holiadur o 2,000 o rieni priod bod 20% yn ystyried gwahanu ar ôl cytuno ymlaen llaw i aros gyda’u partner nes bod y Nadolig drosodd.

“Yn anffodus mae’r ffigyrau yn dangos nad myth yw’r cynnydd yn y galw i gael ysgaru ym mis Ionawr,” meddai John Nicholson, cyfreithiwr teulu ac arbenigwr ar ysgariad.

“Bydd llawer o apwyntiadau wedi eu gwneud ym mi Rhagfyr gan bobol sydd eisoes wedi cynllunio i gychwyn y broses o ysgaru yn Y Flwyddyn Newydd, tra bo eraill wedi cael amser gwael dros gyfnod y gwyliau ac wedi dod i’r casgliad eu bod am gychwyn o’r newydd ym mis Ionawr.”