Mae’r Pab Ffransis wedi pwysleisio pa mor fregus ydi bywyd yn ystod ei wasanaethau Blwyddyn Newydd yn Rhufain.

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael amgylchynu’n hunain gyda thân gwyllt,” meddai. “Ond er hardded ydyn nhw, dim ond ychydig funudau maen nhw’n para.

“Fel ni’n hunain, mae yna amser iddyn nhw ffrwydro i fodolaeth, ac yna marw.

“Ar ddechrau blwyddyn newydd, efallai ei bod hi’n adeg i ni gofio am ein marwoldeb ni’n hunain, a myfyrio ar ddiwedd llwybr bywyd.”