Mae arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, wedi dweud ei fod yn barod i drafod a chyfarfod gydag arweinydd De Corea.

Ond, yn ei araith Blwyddyn Newydd a ddarlledwyd ar deledu Gogledd Corea, mae’r arweinydd sydd byth, bron, yn cael ei weld allan yn gyhoeddus, yn dweud y byddai’n parhau i gryfhau byddin a storfa arfau’r wlad.

Does yna “ddim rheswm pam na ddylid cynnal uwch gynhadledd” gydag arlywydd De Corea, Park Geun-hye, meddai – pe bai llywodraeth Seoul o ddifri’.

Ond, meddai wedyn, fe fyddai’r Gogledd yn parhau i ddatblygu arfau niwclear, tra’n ceisio hefyd rhoi hwb i’r economi a chodi safon byw ei phobol.