Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn dau achos o gynnau tanau’n fwriadol ar Stryd Fawr, Abersychan.

Fe gafodd sied ei rhoi ar dân ar Ragfyr 18, ac fe gynheuwyd tân arall mewn tŷ ar Ragfyr 20. Chafodd neb ei anafu yn yr un o’r ddau ddigwyddiad.

Mae dyn 20 oed o Gwmbran wedi’i arestio a’i ryddhau ar fechniaeth yr heddlu, tra bod Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i’r achosion.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu ar y rhif 101.