Helmand
Mae’r heddlu yn Afghanistan yn ymchwilio wedi i roced daro adeilad lle’r oedd parti priodas yn cael ei gynnal ddoe.

Fe laddwyd 28 o bobol – a nifer ohonyn nhw’n ferched ac yn blant.

Mae heddlu talaith Helmand wedi cadarnhau heddiw ei bod hi’n ymddangos fel pe bai’r roced wedi’i saethu o safle milwyr nepell o’r ty yn ardal Sangin, a hynny wrth i westeion aros i’r briodferch gyrraedd.

Cafodd 51 o bobol eu hanafu yn yr ymosodiad.