David Attenborough
Mae’r naturiaethwr, David Attenborough, wedi beirniadu llywodraeth gwledydd Prydain am feiddio gwadu’r dystiolaeth sy’n profi fod newid yn yr hinsawdd yn effeithio’r amgylchedd.
Mae’r ddynoliaeth yn “wynebu problem enfawr a difrifol”, meddai’r darlledwr, ac mae angen un ymdrech fawr gan holl bobol y byd er mwyn mynd i’r afael a hi, meddai’r darlledwr 88 oed.
“Lle bynnag ydach chi’n edrych, mae yna risg, a’r peth ofnadwy ydi nad ydi’r bobol sydd mewngrym yn fodlon wynebu’r ffeithiau. Maen nhw’n gwadu’r dystiolaeth… a hynny oherwydd ei bod hi’n haws gwneud hynny.
“Mae’n broblem enfawr sy’n wynebu’r ddynoliaeth gyfan.
“Yn holl hanes y ddynoliaeth, mewn 10 miliwn o flynyddoedd, dydi’r ddynoliaeth gyfan erioed wedi dod at ei gilydd er mwyn wynebu un broblem sy’n ei bygwth hi’n gyfan.”