Mark Drakeford, Gweinidog Iechhyd, Llywodraeth Cymru
Heddiw, bydd mwy na 4,800 o’r gweithwyr sy’n cael y cyflog isaf yn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn cael codiad o hyd at £1,056 yn eu cyflog sylfaenol.
Mae’n rhan o gytundeb cyflog dwy flynedd i Gymru y cytunwyd arno ym mis Tachwedd 2014 gan yr undebau llafur sy’n cynrychioli staff y GIG.
Fel rhan o’r cytundeb cyflog, yn 2014-15 bydd cyfandaliad anghyfunol, amhensiynadwy o £187 (cyfystyr ag amser llawn) yn daladwy i holl staff Agenda ar gyfer Newid sydd mewn swydd ar 1 Rhagfyr, 2014.
Caiff hwn ei dalu ym mhecyn cyflog mis Ionawr 2015. Yn ogystal â hyn, bydd staff cyflogedig yn parhau i dderbyn taliadau fesul dipyn yn eu cyflog.
Yn 2015-16, rhoddir codiad cyflog cyfunol o 1% i bob aelod o staff ar raddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid o 1 Ebrill, 2015 ymlaen.
Ymrwymiad Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:
“Mae’r cytundeb cyflog dwy flynedd yn dangos ein hymrwymiad parhaus i staff sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Rwy’n falch iawn y bydd y GIG yng Nghymru, o heddiw ymlaen, yn talu cyflog byw i’w staff fel rhan o’r cytundeb hwnnw.
“Mae hyn yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drechu tlodi, a bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gyflogwyr teg.
“Ein staff sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wasanaeth iechyd gofalgar a thosturiol sy’n darparu triniaeth a gofal i filoedd o bobl yng Nghymru bob dydd sy’n achub ac yn ymestyn bywydau.
“Ein staff sydd ar y cyflog lleiaf yw asgwrn cefn y GIG. Maen nhw’n glanhau ein hysbytai, yn coginio bwyd i’r cleifion, yn helpu cleifion i gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt ac yn gwneud yn siŵr bod ein hysbytai yn weithredol 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos,” meddai.