Mae 35 o bobol wedi marw yn dilyn gwasgfa yn Shanghai, Tsieina. Mae 46 o bobol eraill yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

O blith y rheiny sy’n yr ysbyty, mae 14 wedi’u hanafu’n ddifrifol wedi i filoedd o bobol wasgu i’r un lle yn ardal glan y dwr yn y ddinas.

Fe aeth y dathliadau’n llanast rhyw hanner awr cyn i’r cloc daro hanner nos.

Mae blog y Blaid Gomiwnyddol yn cyhoeddi fod 25 o wragedd a 10 dyn wedi marw, bob un rhwng 16 a 36 oed.