Mae dynes a gafodd ei harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am weithgareddau terfysgol yn Syria, wedi’i rhyddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Fe gafodd y fenyw 25 mlwydd oed o Haringey yn Llundain ei rhyddhau neithiwr, yn dilyn cyfnod o gael ei holi gan swyddogion uned gwrth-derfysgaeth Heddlu’r West Midlands.

Mae llefarydd ar ran y llu wedi cadarnhau i’r ddynes gael ei harestio ym Maes Awyr Luton fore ddoe.

Mae wedi’i rhyddhau ar fechniaeth tan fis Mawrth.