Mae tywydd gwael yn amharu ar ymdrechion i godi rhagor o gyrff o’r môr yn dilyn damwain awyren AirAsia.

Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi cyfyngu ar waith y timau achub wrth i’r chwilio barhau am 162 o bobl oedd ar fwrdd yr awyren oedd yn teithio o Surabaya yn Indonesia i Singapore ddydd Sul.

Mae saith o gyrff wedi cael eu tynnu o Fôr Java hyd yn hyn ond mae’r gwyntoedd cryfion yn golygu bod rhannau mawr o weddillion yr awyren wedi symud tua 50 cilomedr o’r safle ddoe.

Nid yw’n glir o hyd beth achosodd i’r awyren blymio i’r môr yn ystod y daith. Roedd y peilotiaid wedi colli cysylltiad gyda rheolwyr traffig awyr ar ôl gwneud cais i newid taith yr awyren i osgoi’r tywydd stormus.

Bydd yn rhaid dod o hyd i flwch du’r awyren cyn i swyddogion allu darganfod beth achosodd y ddamwain.

Cafodd gwasanaeth ei gynnal ym maes awyr Surabaya heddiw ar gyfer teuluoedd y rhai sydd wedi’u lladd.