Tony Blair
Mae Tony Blair wedi codi amheuon ynglŷn â gallu’r Blaid Lafur i ennill yr etholiad cyffredinol nesaf ar sail polisïau “asgell chwith draddodiadol” Ed Miliband.

Daw sylwadau’r cyn brif weinidog wrth i arweinydd y Blaid Lafur annog pobl i ddewis “dechrau newydd” yn 2015 gan ddweud ei fod yn gyfle i “newid cyfeiriad.”

Mae Ed Miliband wedi apelio ar bleidleiswyr drwy gynnig adferiad economaidd a fydd yn cyflwyno toriadau “yn gyfrifol, heb fygwth ein Gwasanaeth Iechyd a dyfodol ein plant.”

Ond mewn cyfweliad gyda’r Economist, mae Tony Blair yn galw ar ei blaid i ail-gydio yn ysbryd “Llafur Newydd” er mwyn hawlio buddugoliaeth ym mis Mai.

Mae’n dadlau bod Ed Miliband yn anghywir i gredu bod y wlad wedi symud i’r chwith mewn ymateb i’r argyfwng economaidd.

Dywedodd Tony Blair: “Dydw i ddim wedi gweld tystiolaeth o hynny. Fe allwch chi ddadlau ei bod wedi symud i’r dde, nid y chwith.”
Mae’n rhagweld mai’r Ceidwadwyr fydd yn dod i rym yn 2015 ac yn pwysleisio na ddylai’r Blaid Lafur “ddieithrio busnesau.”