Mae mam 29 oed wedi cael ei saethu’n farw gan ei mab 2 oed mewn “digwyddiad trasig” mewn archfarchnad yn Idaho.

Mae’n ymddangos bod y bachgen wedi estyn i fag ei fam wrth iddyn nhw siopa yn archfarchnad Wal-Mart ac wedi gafael mewn gwn llaw yn ei bag a’i danio unwaith.

Roedd Veronica J Rutledge yn dod o Blackfoot yn ne ddwyrain Idaho ac yn ymweld â theulu yn yr ardal. Roedd hi wedi bod yn siopa gyda’i mab a thri o blant eraill pan gafodd ei saethu, meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Mae’n debyg bod ganddi drwydded ar gyfer y gwn.

Bu farw Veronica Rutledge yn y fan a’r lle.

Nid oedd ei gwr yn y siop pan gafodd ei saethu ond fe gyrhaeddodd yn fuan wedyn a chafodd y plant eu cludo i gartref perthynas.

Roedd yr archfarchnad wedi cau am weddill y dydd a dywed Wal-Mart eu bod yn cydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiad.