Mae Asda wedi cyhoeddi ei fod yn gostwng prisiau petrol a disel o 2c y litr.

Fe fydd y prisiau newydd yn dod i rym yfory gan olygu na fydd cwsmeriaid yr archfarchnad yn talu mwy na 107.7c y litr am betrol a 114.7c y litr am ddisel.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau gan y cwmni archfarchnad ei fod yn gostwng prisiau petrol a disel ers mis Medi, yn sgil gostyngiad ym mhrisiau olew.

Mae disgwyl i’r cyhoeddiad annog archfarchnadoedd eraill i ostwng eu prisiau.