Mae cwmni AirAsia wedi cadarnhau bod gweddillion y daethpwyd o hyd iddyn nhw yn y môr yn rhan o awyren Airbus A320 a oedd wedi colli cysylltiad gyda rheolwyr traffig awyr nos Sul.

Mae adroddiadau bod hyd at 40 o gyrff wedi cael eu darganfod ym Môr Java.

Fe gadarnhaodd y Swyddfa Dramor bod y Prydeiniwr Choi Chi Man ymhlith y 155 o deithwyr oedd yn teithio ar yr awyren o Surabaya yn Indonesia i Singapore.

Dywed AirAsia bod 17 o blant a babi ymhlith y teithwyr, a saith aelod o’r criw.

Dywedodd prif weithredwr AirAsia Tony Fernandes ei fod wedi tristau o glywed y newyddion ac mai’r flaenoriaeth nawr oedd edrych ar ôl teuluoedd y rhai oedd ar yr awyren.

Mae timau achub mewn hofrenyddion wedi bod yn ceisio tynnu’r cyrff o’r dŵr a’u cludo i longau rhyfel gerllaw.