Pauline Cafferkey
Mae dynes sy’n dioddef o Ebola ar ôl dychwelyd i Glasgow o Sierra Leone, yn nyrs a oedd wedi gwirfoddoli i helpu yn y frwydr yn erbyn y firws sydd wedi lladd miloedd yng ngorllewin Affrica.
Mae Pauline Cafferkey yn nyrs yng Nghanolfan Iechyd Blantyre yn Ne Lanarkshire ac yn un o grŵp o 30 o wirfoddolwyr meddygol gafodd eu hanfon i Affrica gan Lywodraeth y DU fis diwethaf.
Hi yw’r person cyntaf yn y DU i gael cadarnhad bod ganddi Ebola.
Cafodd y nyrs ei chludo mewn awyren i Ysbyty’r Royal Free yn Llundain bore ma ar ôl iddi ddechrau teimlo’n sâl ar ôl hedfan i Glasgow o Orllewin Affrica nos Sul.
Cafodd ei rhoi mewn uned ar wahân yn yr ysbyty yn Glasgow cyn cael ei symud i Lundain lle bydd yn derbyn triniaeth arbenigol.
Yn ystod ei chyfnod yn Sierra Leone bu’n ysgrifennu dyddiadur i bapur newydd y Scotsman gan son am ei phrofiadau yno.
Mae swyddogion iechyd yn ceisio cysylltu gyda theithwyr oedd ar yr awyren British Airways gyda hi i’r DU ond maen nhw’n rhybuddio bod y risg i’r cyhoedd yn isel iawn.
Maen nhw bellach wedi cysylltu gyda 63 o’r 70 o deithwyr oedd ar yr awyren.
Dau achos arall
Fe gadarnhawyd heddiw bod dau berson arall, un yn Aberdeen ac un arall yng Nghernyw, yn cael profion am Ebola ar ôl bod yng Ngorllewin Affrica.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod y claf yn Aberdeen yn weithiwr iechyd a oedd wedi dychwelyd o orllewin Affrica yn ddiweddar ond mae’n debyg nad oedd wedi cael cysylltiad uniongyrchol gyda phobl oedd yn dioddef o Ebola.
Mae’r claf wedi bod yn aros mewn hostel yn Ucheldiroedd yr Alban ac wedi ei gludo i Ysbyty Brenhinol Aberdeen ar gyfer profion.
Mae’r claf yng Nghernyw mewn uned ar wahan yn Ysbyty Brenhinol Cernyw yn Treliske, Truro.
Roedd y claf wedi dychwelyd o wlad, sydd wedi cael ei effeithio gan y firws, yn ddiweddar.
Ni fydd canlyniadau’r profion ar gael am 24 awr arall, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr.