Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i achos tân ar stad ddiwydiannol ym Merthyr Tudful yn ystod oriau man ddydd Sul.
Cafodd mwy na 30 o gerbydau eu difrodi yn y tân ar stad ddiwydiannol Y Pant.
Bu 40 o ddiffoddwyr yn ceisio rheoli’r tân ar safle First Call Coaches ar ôl cael eu galw yno tua 1.30yb.
Nid yw achos y tân wedi ei gadarnhau hyd yn hyn ac mae Heddlu’r De a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i gynnal ymchwiliad.
Mae’r heddlu’n apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.