Margaret Thatcher
Mae llythyron sydd wedi cael eu rhyddhau heddiw yn datgelu’r gwrthdaro rhwng y Prif Weinidog Margaret Thatcher ac arweinydd y Blaid Lafur Neil Kinnock yn dilyn suddo llong ryfel yr Ariannin, y Belgrano, yn ystod rhyfel Ynysoedd y Falkland.
Mae’n un o nifer o ddatgeliadau sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil cyhoeddi’r Archifau Cenedlaethol heddiw, gan gynnwys dadleuon Whitehall ynglŷn â sut i ariannu Cymru.
Fe ddechreuodd y llythyron rhwng Margaret Thatcher a Neil Kinnock yn 1985 ar ôl i AS Islwyn gyhuddo’r Prif Weinidog o fod a rhan yn y penderfyniad i erlyn y gwas sifil Clive Ponting.
Cafodd Ponting ei gyhuddo o ddatgelu dogfennau cyfrinachol ynglŷn â suddo’r Belgrano i’r Aelod Seneddol Llafur, Tam Dalyell ond fe’i cafwyd yn ddieuog gan reithgor ar ôl iddo ddadlau bod y dogfennau o ddiddordeb i’r cyhoedd.
Roedd Thatcher yn gandryll bod yr arweinydd Llafur wedi ei chyhuddo o anonestrwydd yn Nhŷ’r Cyffredin, ac yn mynnu ei fod yn ymddiheuro.
Ond mewn llythyr at y Prif Weinidog mae Kinnock yn dweud na fydd yn ymddiheuro nes ei fod yn cael esboniad digonol i’r penderfyniad i erlyn Clive Ponting.
Dywedodd Margaret Thatcher mewn ymateb ei bod yn teimlo bod y berthynas rhyngddi hi a Kinnock wedi dirywio am ei fod yn gwrthod derbyn nad oedd hi wedi bod yn rhan o’r penderfyniad.
Mewn llythyr arall at Thatcher mae Kinnock yn derbyn nad oedd hi’n gysylltiedig â’r penderfyniad ond yn mynegi ei siom nad oedd hi’n fodlon ateb cwestiynau eraill a fyddai “o ddiddordeb, nid yn unig i fi, ond i’r wlad.”
Roedd y ddogfen gafodd ei datgelu gan Clive Ponting yn awgrymu bod y Belgrano wedi bod yn gadael yr ardal waharddedig pan gafodd ei suddo gan ladd 360 o bobl.
Daeth Clive Ponting yn academydd yn adran wleidyddiaeth Prifysgol Abertawe yn ddiweddarach.