Achub teithwyr o'r llong fferi ddoe
Parhau mae’r chwilio yn y dŵr lle aeth llong fferi o Wlad Groeg ar dân yn dilyn dryswch ynglŷn â faint o bobl oedd ar ei bwrdd.
Mae nifer y rhai fu farw yn y digwyddiad bellach wedi codi i 10 ac fe lwyddodd hofrenyddion o’r Eidal a Gwlad Groeg i achub 427 o bobl ddoe.
Serch hynny mae ’na anghysonderau yng nghofnodion y llong ynglŷn â faint o deithwyr oedd ar y Norman Atlantic ac mae swyddogion yn rhybuddio y gallai rhagor o bobl fod ar goll.
Mae perchnogion y llong fferi, Anek Lines, yn dweud bod 475 o bobl wedi bod ar y fferi ond mae swyddogion yn yr Eidal yn dweud y gallai’r rhestr gynnwys enwau pobl oedd wedi archebu lle ar y llong ond nad oedden nhw wedi teithio arni.
Yn ôl Giovanni Pettorino o lynges yr Eidal, roedd 80 o’r rhai gafodd eu hachub ddim ar y rhestr o gwbl gan awgrymu bod y llong fferi wedi bod yn cludo rhai mewnfudwyr yn anghyfreithlon wrth iddyn nhw geisio cyrraedd yr Eidal.
Fe ddechreuodd y tân wrth i’r Norman Atlantic deithio o borthladd Patras yng Ngwlad Groeg i Ancona yn yr Eidal. Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.
Yn y cyfamser mae’r teithwyr yn dweud mai ychydig iawn o gyfarwyddiadau a gawson nhw gan y criw wrth i fwg lenwi’r llong fferi.
Dywed eraill bod rhai teithwyr wedi gwthio pobl allan o’r ffordd er mwyn cyrraedd y badau achub a’r hofrenyddion.
Dywedodd un o’r teithwyr o Wlad Groeg, Irene Varsioti, nad oedd “unrhyw drefn a dim parch yn cael ei ddangos tuag at blant.”
Fe lwyddodd timau achub o’r Eidal i frwydro yn erbyn tonnau mawr a gwyntoedd cryfion i achub cannoedd o’r teithwyr, y criw a dau gi.
Fe arhosodd capten y llong fferi, yr Eidalwr Argilio Giacomazzi, ar ei bwrdd nes bod pob un wedi cael eu hachub.