Mae dyn 66 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dynes 46 oed yn Llaneirwg yng Nghaerdydd wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ddigwyddiad yn Drawlings Close, Llaneirwg, am 9.30 fore dydd Sadwrn, 27 Rhagfyr lle cafwyd hyd i’r ddynes.
Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Dywed yr heddlu nad ydyn nhw bellach yn trin marwolaeth y ddynes fel un amheus yn dilyn archwiliad post mortem.