Mae dau blentyn ac oedolyn wedi marw ar ôl tân mewn carafán yn gynnar bore ma, meddai’r Heddlu yn Surrey.

Cafodd dyn a phlentyn arall driniaeth am losgiadau ar ôl y tân yn Newchapel yn Surrey tua 1.45yb ddydd Mawrth. Mae’r plentyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Dwyrain Surrey.

Bu farw’r tri pherson arall yn y fan a’r lle.

Dywed Heddlu Surrey bod y gwasanaethau brys yn parhau ar y safle a’u bod wedi dechrau ymchwiliad i achos y tân.