Teuluoedd yn aros am newyddion yn Indonesia
Mae swyddogion yn Indonesia wedi dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i chwech o gyrff a gweddillion ar y safle lle diflannodd awyren AirAsia ym Môr Java.
Fe ddiflannodd yr awyren gyda 162 o bobl ar ei bwrdd ddydd Sul wrth deithio o Surabaya, yn Indonesia i Singapore.
Mae tri o’r cyrff wedi cael eu cludo i un o longau llynges Indonesia.
Yn gynharach roedd awyren filwrol Indonesia wedi gweld gweddillion ac eitemau eraill, yn y môr ger ynys Borneo.
Dywed swyddogion bod hofrennydd wedi cael ei anfon i’r safle i dynnu’r cyrff o’r môr.
Cafwyd hyd i’r cyrff tua chwe milltir o’r safle lle’r oedd yr awyren wedi colli cysylltiad gyda rheolwyr traffig awyr yn dilyn cais gan y peilotiaid i hedfan yn uwch dros y cymylau oherwydd y tywydd gwael. Fe wrthodwyd y cais oherwydd bod awyrennau eraill yn hedfan yn yr ardal.
Munudau’n ddiweddarach fe ddiflannodd yr Airbus A320-200 o’r radar dros Fôr Java ger ynys Belitung.
Mae ymdrech rhyngwladol wedi bod i chwilio am yr awyren gyda llongau milwrol o’r Unol Daleithiau a China ar eu ffordd i’r safle.
Mae Malaysia, Awstralia a Gwlad Thai hefyd wedi cymryd rhan yn y chwilio.