Y ddynes yn cael ei chludo i Lundain
Mae gweithwraig iechyd sy’n dioddef o Ebola ar ôl dychwelyd i Glasgow o Sierra Leone wedi cael ei chludo i uned arbenigol yn Llundain y bore ma.
Mae’r ddynes, fu’n gweithio yn Sierra Leone gyda’r elusen Achub y Plant, wedi bod mewn uned ar wahân yn Glasgow ers bore ddoe ac mae hi mewn cyflwr sefydlog ar hyn o bryd.
Roedd hi wedi hedfan yn ôl i’r DU ddoe o Casablanca cyn teithio ymlaen i faes awyr Heathrow yn Llundain, a chyrraedd maes awyr Glasgow tua 11.30yh nos Sul ar awyren British Airways.
Cafodd ei chludo i’r ysbyty yn gynnar fore ddoe ar ôl teimlo’n sâl a’i rhoi mewn uned ar wahân yn Ysbyty Gartnavel am 7.50yb.
Cafodd ei chludo i faes awyr Glasgow mewn awyren filwrol ar gyfer y daith i Ysbyty’r Royal Free yn Llundain.
Mae swyddogion iechyd yn ceisio dod o hyd i 71 o bobl eraill oedd ar yr awyren British Airways o Lundain i Glasgow gyda’r ddynes.
Mae’n debyg mai hi yw’r person cyntaf i gael diagnosis o Ebola yn y DU.
Ar wahan i’r teithwyr ar yr awyren a staff yr ysbyty mae’n debyg mai dim ond un person fu mewn cysylltiad â’r ddynes yn yr Alban.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod y risg i’r cyhoedd yn “isel iawn”.
Ychwanegodd bod yr Alban wedi bod yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o achos o’r fath ers yr argyfwng yng ngorllewin Affrica.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu rhif ffôn arbennig i unrhyw un oedd yn teithio ar awyren BA1478 a oedd wedi gadael Heathrow am 9yh nos Sul i Glasgow. Y rhif yw 08000 858531.
Yn y cyfamser mae adroddiadau bod claf yng Nghernyw yn cael profion am Ebola.