Debbie Purdy
Mae dynes fu’n ymgyrchu dros yr hawl i farw ac a oedd yn dioddef o barlys ymledol (MS), wedi marw.

Roedd Debbie Purdy, 51 oed, o Bradford wedi ennill buddugoliaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi yn 2009 a arweiniodd at gyhoeddi canllawiau ynglŷn â rhoi cymorth i farw.

Bu farw Debbie Purdy mewn hosbis yn Bradford, lle’r oedd wedi bod yn aros am flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran hosbis Marie Curie ei bod wedi marw cyn y Nadolig.

Yn ystod ymchwiliad yn 2010 dywedodd Debbie Purdy y byddai hi wedi teithio i glinig Dignitas yn y Swistir i ddod a’i bywyd i ben pe na bai hi wedi cael cefnogaeth Tŷ’r Arglwyddi.

Roedd hi wedi dadlau y byddai’n groes i’w hawliau dynol petai hi ddim yn gwybod a fyddai ei gwr yn cael ei erlyn os fyddai wedi teithio gyda hi i’r Swistir.

Mae’r grŵp ymgyrchu Dignity in Dying wedi mynegi tristwch am ei marwolaeth gan ei disgrifio fel “ymgyrchydd gwerthfawr a ffrind.”