Awyren AirAsia
Parhau mae’r chwilio am awyren AirAsia a oedd wedi colli cysylltiad ddoe yn ystod tywydd stormus.

Roedd 162 o deithwyr, gan gynnwys dyn o Brydain, ar fwrdd yr awyren a oedd yn teithio o Surabaya yn Indonesia i Singapore.

Roedd yr awyren Airbus A320-200 wedi gwneud cais i newid ei thaith oherwydd pryderon am y tywydd stormus, pan gollodd cysylltiad gyda rheolwyr traffig awyr.

Dywed swyddogion yn Indonesia bore ma bod awyrennau Awstralia wedi gweld gwrthrychau yn y môr ger y safle lle diflannodd yr awyren.

Bu’n rhaid rhoi’r gorau i chwilio am yr awyren ddoe oherwydd y tywydd gwael ond mae timau achub, gan gynnwys 12 o longau’r llynges, pum awyren, tri hofrennydd a nifer o longau rhyfel, bellach wedi ail-ddechrau chwilio ardal i’r de ddwyrain o ynys Belitung.

Roedd 155 o deithwyr a saith o griw ar fwrdd yr awyren. Yn ôl adroddiadau, mae’r Prydeiniwr Chi Man Choi yn eu plith. Mae’n debyg ei fod wedi bod yn teithio i Singapore gyda’i ferch, Zoe.

‘Hunllef’

Mae prif weithredwr AirAsia, Tony Fernandes, sydd hefyd yn berchen clwb pel-droed Queens Park Rangers, wedi bod yn son am ei dristwch ac wedi diolch i bobl am eu cefnogaeth.

“Dyma fy hunllef waethaf. Mae fy meddyliau gyda’r teithwyr a’r criw. Mae ein gobeithion gyda’r timau chwilio ac achub ac rydym yn diolch i lywodraethau Indonesia, Singapore a Malaysia.”

Ychwanegodd Tony Fernandes ei fod wedi teithio i brifddinas Indonesia, Jakarta, i gysylltu gyda’r rhai sy’n cydlynu’r ymdrech chwilio ac achub ond ei fod yn bwriadu teithio yn ôl i Surabaya lle mae teuluoedd y teithwyr ar yr awyren yn aros am newyddion.

Dywed AirAsia eu bod yn rhoi pob cefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio.