Mae dwy o brif ganolfannau adloniant y gogledd-orllewin yn cau.
Mae cyhoeddiad ar dudalen Facebook y caffi/bar Cofi Roc a’r Clwb Nos K2 yn dweud y byddan nhw’n cau ddydd Sadwrn, Ionawr 3.
Mae Cofi Roc yn diolch i’w gweithwyr a’u cwsmeriaid am 12 mlynedd fythgofiadwy er nad ydynt yn esbo
Holi
Cysylltodd Golwg 360 gyda’r cyn berchennog Ioan Thomas, sydd yn dal i fod yn un o gyfranddalwyr y fenter.
Doedd ganddo ddim sylw ar y mater ond fe ddywedodd ei fod yn disgwyl fod datganiad llawnach ar y ffordd.
Roedd dyfalu wedi bod ers tro y gallai’r caffi a’r clwb fod ar y dibyn.
Mae’r dudalen Facebook yn addo noson am ddim ar y noson ola’.