Mae dynion arfog wedi lladd beth bynnag 14 o filwyr oedd yn gwarchod atomfa bwer yn Libya.

Mae ymchwiliad ar y gweill wedi’r marwolaethau yn nhalaith Sirte, lle mae gwrthryfelwyr Islamaidd sy’n gefnogol i lywodraeth Tripoli, mewn grym.

Dyw hi ddim yn glir eto pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.