Mae pedwar o bobol, yn cynnwys dwy ferch yn eu harddegau, yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y ddamwain lori ludw yng nghanol Glasgow ddechrau’r wythnos.

Mae’r gwragedd – merched 14 a 18 oed, ynghyd a dynes 63 oed – yn cael eu trin yn Inffyrmari Brenhinol Glasgow.

Mae’r claf arall, dyn 57 mlwydd oed, yn derbyn triniaeth yn y Western Infirmary yn y ddinas. Mae yntau mewn cyflwr sefydlog.