Papur y Times of India'n adrodd am yr ymladd - ac am gyhuddiadau yn erbyn yr heddlu
Mae nifer y marwolaethau oherwydd ymladd yng ngogledd-ddwyrain India wedi codi i 72.
Mae yna bryder y bydd y trais yn lledu rhwng ymgyrchwyr annibyniaeth a llwyth yr Adivasi.
Mae’r rheiny wedi cyhuddo’r heddlu a’r Llywdraeth o fethu â’u hamddiffyn adeg cyfres o ymosodiadau yn ystod y dyddiau diwetha’.
Maen nhwthau wedi taro’n ôl a lladd llond dwrn o’r gwrthryfelwyr yn Assam.
Gweinidog yn ymweld
Mae un o weinidogion y llywodraeth ganol wedi teithio i’r ardal sydd rhwng Bangladesh a China, lle mae nifer o garfannau’n ymladd am annibyniaeth.
Yn ôl adroddiadau lleol, mae cannoedd o’r Adivasi’n dal i gael lloches mewn ysgolion ac ysbytai yn ardal Sonitpur, lle’r oedd yr ymladd mwya’.
Fe symudodd yr Adivasi i’r ardal i weithio ar y planhigfeydd te fwy na chanrif yn ôl.