Archesgob Caergaint (PA)
Sioe undydd oedd y gêm bêl-droed enwog a gynhaliwyd union gan mlynedd yn ôl yn y ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ôl Archesgob Caergaint.

Yn ei neges flynyddol, fe fydd pennaeth eglwysi Anglicanaidd y byd yn rhybuddio rhag  troi’r Nadolig yn gyfres o straeon tylwyth teg.

Er fod y digwyddiad, pan roddodd milwyr yr Almaen a lluoedd gwledydd Prydain y gorau i ymladd er  mwyn chwarae gêm bêl-droed yn “dangos peth o ysbryd y Nadolig”, fe fydd Justin Welby’n pwysleisio bod y Rhyfel Mawr wedi mynd yn ei flaen y diwrnod wedyn.

‘Dim wedi newid’

“Doedd dim wedi newid,” meddai’r Archesgob, mewn dyfyniadau o’i bregeth sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw. “Rhyfeddod undydd oedd hyn. Nid dyna’r byd yr ydym yn byw ynddo, mae cadoediadau’n bethau prin.”

“Wrth gwrs ein bod ni’n hoffi straeon Nadolig gyda diweddglo hapus: canu carolau, cyfnewid ffotograffau, siglo llaw, rhannu sicled, ond y diwrnod wedyn, aeth y rhyfel yn ei flaen gyda’r un ffyrnigrwydd.”

Fe fydd yn dweud bod Iesu Grist wedi dod i’r byd i newid realiti nid i greu syniad o “bopeth yn hapus byth wedyn”.