Mae dyn du wedi cael ei saethu’n farw mewn gorsaf betrol ym Missouri yn yr Unol Daleithiau ar ôl anelu dryll at yr heddlu.
Ymgasglodd torf o oddeutu 100 o bobol yn Berkeley yn dilyn y digwyddiad ychydig filltiroedd o’r fan lle cafodd Michael Brown ei saethu gan yr heddlu ym mis Awst.
Yn ôl yr heddlu, roedden nhw’n cynnal ymchwiliad neithiwr pan welon nhw ddau ddyn a phenderfynu mynd atyn nhw.
Anelodd un o’r dynion ddryll at yr heddlu, ac fe lwyddodd y dyn arall i ffoi.
Dydy’r heddlu ddim wedi datgelu pwy yw’r dyn, ond mae lle i gredu mai Antonio Martin, dyn 18 oed sydd wedi cael ei ladd.
Dywedodd ei fam wrth y wasg leol fod ei mab gyda’i gariad pan gafodd ei saethu.
Mae’r digwyddiad wedi arwain at brotestiadau ffyrnig yn yr ardal.
Cafodd pythefnos o brotestiadau eu cynnal yn dilyn marwolaeth Michael Brown ym mis Awst, a phenderfynodd yr awdurdodau fis diwethaf i beidio dwyn achos yn erbyn yr heddlu yn sgil y digwyddiad.