Prif Weinidog Awstralia Tony Abbott a'i wraig Margie yn gosod blodau
Mae gwasanaethau i gofio’r ddau fu farw yn dilyn gwarchae gan ddyn arfog mewn caffi yng nghanol dinas Sydney yn Awstralia wedi cael eu cynnal heddiw.

Wythnos yn ôl, cafodd rheolwr y caffi, Tori Johnson, 34 oed, ei saethu yn farw ynghyd a’r gyfreithwraig Katrina Dawson, 38.

Roedden nhw ymysg 17 o bobol gafodd eu cadw’n wystlon am bron i 16 awr gan Man Haron Monis, ffoadur 50 oed o Iran. Cafodd ei saethu gan yr heddlu yn ystod y digwyddiad.

Roedd Tori Johnson wedi ceisio cymryd y gwn o law Man Haron Monis, gan roi cyfle i rai o’r gwystlon eraill ddianc, a chafodd Katrina Dawson ei saethu wrth iddi geisio gwarchod ei ffrind beichiog rhag cael ei saethu.

Mae Prif Weinidog Awstralia Tony Abbott eisoes wedi cyhoeddi bod gan Monis hanes o droseddau treisgar a diddordeb mewn eithafiaeth ond nid oedd ar restr yr heddlu o bobol sy’n cael eu hamau o frawychiaeth.

Dywedodd swyddogion y bydd cofeb barhaol yn cael ei godi gerllaw safle’r gwarchae.