Fe fydd dau ddyn yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio plismon yn Lerpwl.
Fe ymosodwyd ar y Cwnstabl Neil Doyle, 36, yng nghanol y ddinas yn oriau man fore dydd Gwener wrth iddo fod ar noson allan gyda’i gydweithwyr. Nid oedd ar ddyletswydd ar y pryd.
Mae disgwyl i Andrew Taylor, 28, o Huyton, a Christopher Spendlove, 30, o Stockbridge Village fynd gerbron Llys Ynadon Lerpwl heddiw.