Llifogydd yn Y Rhyl y llynedd
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn galw ar gwmnïau bach ym Mhrydain i baratoi ar gyfer llifogydd, wedi i ymchwil newydd dangos nad oes gan dros hanner ohonyn nhw gynllun mewn lle i ddelio hefo tywydd gwael.

Mae hyn er bod 66% o fusnesau bach yn dweud bod llifogydd neu eira wedi effeithio yn negyddol arnyn nhw yn y tair blynedd ddiwethaf.

Dywedodd y Ffederasiwn bod difrod yn sgil llifogydd wedi costio tua £1,500 i bob cwmni gafodd ei effeithio’r llynedd a gyda’r potensial am dywydd gwael yn 2015, bod angen i’r 59% o gwmnïau sydd heb gynllun llifogydd i baratoi yn well.

“Y llynedd oedd y gaeaf gwlypaf i’w gofnodi ac fe wnaeth 3,200 o siopau a busnesau bach weld difrod o lifogydd,” meddai Mike Cherry, Cadeirydd y Ffederasiwn.

“Rydym yn pryderu na fydd y Llywodraeth yn cynnwys busnesau bach yn eu cytundeb llifogydd, sydd wedi ei lunio i warchod y rhai sydd a’r risg mwyaf o lifogydd yn ariannol.

“Fe fydd yswiriant llifogydd fforddiadwy mewn lle yn y dyfodol ond ar hyn o bryd, nid yw 30% ohonyn nhw yn gymwys amdano.”

Ychwanegodd Mike Cherry: “Ond os ydyn nhw’n cael eu heffeithio, rydym yn annog trigolion i barhau i’w cefnogi drwy siopa yn lleol.”