Ashley Talbot
Fe fydd angladd disgybl o Ysgol Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, gafodd ei daro gan fws mini y tu allan i’r ysgol, yn cael ei gynnal heddiw.
Bu farw Ashley Talbot, 15, ar 10 Rhagfyr yn dilyn gwrthdrawiad gyda bws mini’r ysgol oedd yn cael ei yrru gan aelod o staff ar y pryd.
Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Cynfelyn, Caerau a mynwent Cymmer, Croeserw y bore yma.
Wrth gofio amdano, dywedodd ei deulu a’i ffrindiau fod ganddo bersonoliaeth ddireidus a’i fod o hyd yn gwneud i bobol wenu.
Ar 18 Rhagfyr, fe wnaeth Crwner Aberdâr agor a gohirio cwest i’w farwolaeth.
Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n parhau gyda’u hymchwiliadau i geisio darganfod beth achosodd y gwrthdrawiad.