Y fan wedi'r digwyddiad yn Nantes
Roedd dyn, a yrrodd ei fan tuag at bobl mewn marchnad Nadolig yn Ffrainc ddoe, gan anafu 10 o bobl, wedi trywanu ei hun sawl gwaith ar ôl y digwyddiad, meddai’r heddlu.
Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth, Pierre-Henry Brandet, roedd “y gyrrwr wedi taro yn erbyn y dorf yn fwriadol.”
Cafodd 11 o bobl, gan gynnwys y gyrrwr, eu hanafu yn y digwyddiad yn nhref Nantes pan oedd y farchnad yn llawn o siopwyr.
Dywedodd Pierre-Henry Brandet bod y gyrrwr ymhlith pump o bobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol.
Mae swyddogion wedi galw ar bobl i beidio â neidio i gasgliadau yn dilyn dau ymosodiad dros y penwythnos.
Yn ystod un ymosodiad roedd gyrrwr fan wedi taro 13 o bobl yn Dijon ac mewn digwyddiad arall roedd dyn, a oedd wedi troi at grefydd Islam yn ddiweddar, wedi trywanu tri o swyddogion yr heddlu yn Tours.
Cafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Dywed erlynwyr yn Dijon bod gan yrrwr y fan hanes hir o broblemau seiciatryddol ac nad oedd yn ymosodiad brawychol.