Castell Stormont
Mae arweinwyr yng Ngogledd Iwerddon wedi bod yn cynnal trafodaethau dros nos er mwyn ceisio dod i gytundeb ynglŷn â chyfres o faterion dadleuol.
Fe ddechreuodd y trafodaethau rhwng y pum prif blaid a Llywodraethau’r DU ac Iwerddon yng Nghastell Stormont am hanner dydd ddoe.
Roedd disgwyl i’r pleidiau ddod i gytundeb ddoe ynglŷn â materion fel baneri a gorymdeithiau yn dilyn proses sydd wedi parhau am 11 wythnos, ond roedd y trafodaethau wedi parhau dros nos tan oriau man y bore.
Un o’r materion eraill sy’n hawlio sylw yw’r pecyn ariannol newydd sydd wedi cael ei gynnig gan David Cameron a fyddai’n rhoi £1 biliwn o arian ychwanegol i Stormont.