Y lori sbwriel yn Sgwar George yn Glasgow ddoe
Mae’r heddlu yng Nglasgow yn ymchwilio i ddamwain ar ôl i lori sbwriel golli rheolaeth mewn stryd brysur yn y ddinas ddoe gan ladd chwech o bobl.
Cafodd wyth o bobl eraill eu hanafu ar ôl i’r lori wyro ar y pafin cyn dod i stop ar ôl taro yn erbyn gwesty.
Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 2.30 bnawn dydd Llun yn Sgwâr George a oedd yn llawn o siopwyr Nadolig a theuluoedd oedd yn mwynhau’r carnifal blynyddol.
Mae torchau o flodau wedi cael eu gadael ger y safle wrth i’r heddlu barhau gyda’u hymchwiliad i ddarganfod sut yr oedd y lori wedi colli rheolaeth.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Sutherland o Heddlu’r Alban neithiwr: “Ar hyn o bryd rydym ni’n gweithio gydag asiantaethau eraill i geisio darganfod yn union beth ddigwyddodd.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd y camau angenrheidiol i wneud hyn mor fuan â phosib fel ein bod ni’n gallu cael atebion ar gyfer y teuluoedd.”
Credir bod gyrrwr y lori wedi cael ei daro’n wael wrth deithio ar hyd Stryd y Frenhines gan daro nifer o bobl cyn taro Gwesty’r Millennium yn Sgwâr George.
Fe fydd gwasanaeth arbennig i gofio’r rhai fu farw’r bore ma a bydd baneri yn chwifio ar hanner mast ar adeiladau cyhoeddus.
Daw’r digwyddiad ychydig dros flwyddyn ers i hofrennydd lanio ar do’r tafarn, y Clutha Bar, yng Nglasgow gan ladd 10 o bobl.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon: “Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad trasig yma, yn enwedig teuluoedd a ffrindiau’r chwech o bobl fu farw ar ddiwrnod trist arall i Glasgow a’r Alban.”