Mae ymladdwyr Cwrdaidd o Irac, gyda chefnogaeth milwyr dan arweinyddiaeth America, wedi gwthio eu ffordd i mewn i dre’ Sinjar heddiw – tre’ sydd wedi bod dan reolaeth gwrthryfelwyr Sunni ers yr ha’.

Ymhellach i’r dwyrain, ger y ffin gyda Syria, mae lluoedd diogelwch Syria yn ymladd yn erbyn eithafwyr ISIS, wrth iddyn nhw geisio adennill maes awyr Tal Afar.

Yr wythnos ddiwetha’, fe lawnsiwyd yr ymgych ddiweddara’ gan ymladdwyr Cwrdaidd yn Irac i ennill rheolaeth eto ar dre’ Sinjar. Fe lwyddon nhw i greu llwybr i Fynydd Sinjar, sy’n edrych i lawr dros y dre’.

Mae swn ffrwydro a brwydro gyda gynnau i’w glywed oddi mewn i’r wlad heddiw, wrth i fannau tactegol ISIS gael eu targedu gan awyrennau’r cynghreiriaid.