Mae Heddlu De Swydd Efrog wedi enwi’r ddau ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ddoe – y digwyddiad a arweiniodd at arestio dyn 20 oed ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Astra a Peugeot 206 yn Sheffield.

Roedd Joshua Fothergill, 19, yn dod o Rotherham, ac roedd yn teithio yn yr Astra. Bu farw yn y fan a’r lle. Yn y Peugeot oedd Liam Parkin, 19, o Sheffield, yn teithio, a bu farw yntau yn syth.

Fe gafodd tri dyn arall oedd yn teithio yn y Peugeot – 18, 21 a 24 oed – eu cludo i’r ysbyty i gael triniaeth. Mae dau ohonyn nhw wedi’u hanfon adref bellach.