Liam William

Mae asgellwr Scarlets a Chymru wedi ymddiheuro am gyhoeddi llun ohono’i hun ar y we mewn gwisg ffansi ac yn “bod yn Wilfried Bony”.

Roedd y llun yn dangos Liam Williams wedi rhoi colur du ar ei wyneb ac yn gwisgo dillad clwb pêl-droed Dinas Abertawe.

Roedd sefydliad gwrth-hililaeth Shot Racism the Red Card yn un o’r rhai oedd wedi beirniadu’r chwaraewr rygbi.

Ar ei gyfrif Twitter heddiw, mae Liam Williams wedi dweud: “Dw i’n sori os oes unrhyw un wedi cael loes gan fy ngweithredoedd. Sa i’n hiliol, a doedd yna ddim malais yn yr hyn wnes i.”

Ers hynny, mae’r llun wedi’i ddileu oddi ar y we, ac mae clwb rygbi’r Scarlets wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod wedi ymrwymo “i gael gwared yn llwyr ar wahaniaethu o bob math”.