Fydd Ched Evans, y pêl-droediwr a dreuliodd gyfnod yng ngharchar am dreisio merch, ddim yn cael ei gyflogi gan glwb pêl-droed Hartlepool United.
Mewn datganiad ddechrau’r pnawn, fe gyhoeddodd y clwb sydd ar waelod y Gynghrair, nad oes job i Ched Evans yng ngogledd ddwyrain Lloegr.
Roedd rheolwr newydd y clwb, Ronnie Moore, wedi dweud y byddai’n hoffi gweld y sgoriwr goliau a fuodd yn chwarae i Gymru, yn dod yn rhan o garfan Hartlepool.
Ond fe fu ymateb ffyrnig i’r ensyniad – ac mae’r clwb newydd ryddhad datganiad yn dweud yn bendant na fyddan nhw’n arwyddo Ched Evans.
“Fe ymatebodd rheolwr y clwb i gwestiwn rhethregol ar y we yn holi ynglyn â’r posibilrwydd o arwyddo’r chwaraewr, ac fe ddywedodd, ‘pe bai hynny’n gallu digwydd, faswn i’n dymuno iddo ddigwydd’.
“Roedd yr ymateb hwnnw wedi’i seilio ar allu amlwg y pêl-droediwr. Ond mae’r clwb yn gallu deall consyrn cefnogwyr ac aelodau o’r cyhoedd, ac mae’n ymddiheuro am unrhyw gamargraff gafodd ei gyfleu.”