Ched Evans yn strip ei gyn-glwb, Sheffield United
Mae clwb pêl-droed Hartlepool United yng nghanol ffrae newydd tros Ched Evans, wedi i’r rheolwr gyhoeddi y byddai’n hoffi arwyddo cyn-chwaraewr Cymru.

Fe gadarnhaodd Ronnie Moore, a ddechreuodd ar ei gyfnod yn fos yr wythnos hon, y byddai’n hoffi dod â’r chwaraewr canol cae 25 oed yno.

Ond mae Aelod Seneddol Llafur Hartlepool, Iain Wright, yn dweud na ddylai neb gyffwrdd ag Evans, ac y byddai rhoi cyfle iddo yn rhoi’r neges anghywir i ddilynwyr ifanc y clwb.

“Pe bai o’n gallu digwydd, mi faswn i’n licio iddo fo ddigwydd,” meddai Ronnie Moore. “Mae o wedi’i brofi ei hun yn sgoriwr. Mae o wedi cymryd ei gosb, ac mae’r bachgen eisiau chwarae pêl-droed.

“Mae o wedi gwneud camgymeriad, ac efallai nad ydi o wedi ymddiheuro am hynny yn y ffordd gywir… a dw i’n gwybod fod yna achos apêl yn yr arfaeth hefyd… ond, os ydi o’n dychwelyd i’r maes ymarfer, mi allai o gael y clwb yma allan o drwbwl.”

Ond mae Iain Wright yn gandryll fod y mater yn cael ei ystyried o gwbwl.

“Dw i’n caru’r clwb yma, dw i’n caru Hartlepool United,” meddai. “Mae yna reswm pam nad oes yr un tim arall yn y Gynghrair eisiau arwyddo Ched Evans.”