Mae cyn-bencampwr bocsio pwysau trwm y byd, Muhammad Ali, yn yr ysbyty yn diodde’ o niwmonia.
Mae llefarydd ar ei ran yn dweud fod Ali, 72 oed, yn cael ei drin gan dim o feddygon, a’i fod mewn cyflwr sefydlog.
Y gred, meddai, ydi fod y niwmonia wedi’i ddiagnosio’n gynnar, ac felly bod mwy o siawns o’i drin. Does neb yn disgwyl i Muhammad Ali orfod aros yn yr ysbyty am gyfnod hir, meddai wedyn.
Mae’r cyn-focsiwr yn diodde’ o Glefyd Parkinson, a’r tro diwetha’ iddo wneud ymddangosiad cyhoeddus oedd ym mis Medi eleni, pan aeth i seremoni wobrwyo yn nhre’ Louisville, Kentucky, lle mae’n byw.