Gweilch 31–20 Ulster

Cododd y Gweilch yn ôl i frig y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth a phwynt bonws wrth i Ulster ymweld â’r Liberty nos Sadwrn.

Cafwyd perfformiad da arall gan yr haneri, Webb a Biggar, wrth i’r tîm cartref ddiogelu’r pum pwynt o fewn yr awr.

Roedd Dan Biggar eisoes wedi llwyddo gyda chic gosb gynnar pan groesodd am gais cyntaf y gêm wedi 17 munud, 10-3 y sgôr wedi trosiad llwyddiannus.

Felly yr arhosodd pethau tan bedwar munud cyn yr egwyl, pan groesodd Rhys Webb am ail gais y Gweilch, ac yn dilyn dau bwynt arall o droed Biggar roedd gan y Cymry bedwar pwynt ar ddeg o fantais ar yr egwyl.

Mae Webb yn mwynhau tymor gwych ac roedd yng nghanol pethau eto ar ddechrau’r ail gyfnod, yn croesi am ei ail gais ef a thrydydd ei dîm, wrth i’r Gweilch fynd allan o afael Ulster.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel cyn yr awr wedi i’r asgellwr, Hanno Dirksen, sgorio pedwerydd y tîm cartref.

Tynnodd y Gweilch eu traed oddi ar y sbardun wedi hynny ac fe wnaeth Ulster gêm ohoni gyda dau gais cyflym toc wedi’r awr. Croesodd yr eilydd fachwr, Rob Herring, i ddechrau cyn i gyn ffefryn y Liberty, Tommy Bowe, ychwanegu’r ail.

Un pwynt ar ddeg oedd ynddi felly gyda deuddeg munud i fynd ond daliodd y Gweilch eu gafael ar y fantais i gofnodi buddugoliaeth dda.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gweilch yn ôl i frig tabl y Pro12.
.
Gweilch
Ceisiau:
Dan Biggar 17’, Rhys Webb 36’, 48’, Hanno Dirksen 55’
Trosiadau: Dan Biggar 18’, 37’, 48’, 56’
Cic Gosb: Dan Biggar 2’
.
Ulster
Ceisiau:
Rob Herring 59’, Tommy Bowe 67’
Trosiadau: Ian Humphreys 59’, 67’
Ciciau Cosb: Ian Humphreys 14’, 43’