Wrecsam 1–3 Dartford

Yr ymwelwyr aeth â hi wrth i Dartford deithio i’r Cae Ras i herio Wrecsam yn y Gyngres brynhawn Sadwrn.

Roedd goliau Elliot Bradbrook, Rory McAuley a Tom Bradbrook yn ddigon i drechu’r Dreigiau.

Chwe munud yn unig oedd ar y cloc pan agorodd Elliot Bradbrook y sgorio gyda chynnig da o du allan i’r cwrt cosbi, ac felly yr arhosodd pethau tan yr egwyl.

Dyblodd Rory McAuley y fantais toc wedi’r awr gyda pheniad rhydd o groesiad Lee Noble ac roedd Dartford yn edrych yn gyfforddus.

Rhoddodd Louis Moult lygedyn o obaith i’r Dreigiau ychydig funudau’n ddiweddarach pan rwydodd heibio i’r Cymro, Jason Brown, ond roedd y tri phwynt yn ddiogel i’r ymwelywr pan sgoriodd Tom Bradbrook y drydyedd yn yr amser brifo.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn ddeuddegfed yn nhabl Cyngres Vanarama, wyth pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.
Wrecsam
Tîm:
Bachmann, Pearson, Smith, Hudson, Ashton, Carrington (Moult 62′), Harris (Evans 34′), Clarke (Durrell 77′), Jennings, York, Bishop
Gôl: Moult 67’
Cerdyn Melyn: Jennings 82’
.
Dartford
Tîm:
Brown, Driver (Collier 66′), McAuley, Mitchell-King, Bender, Noble, E. Bradbrook, Sweeney, Daley, Crawford (Harris 62′), T. Bradbrook
Goliau: E. Bradbrook 6’, McAuley 63’, Tom Bradbrook 90′
Cardiau Melyn: McAuley 25’, T. Bradbrook 72’, Bender 83’
.
Torf: 2,662