Luton 3–0 Casnewydd
Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt ymweld â Ffordd Kenilworth yn y frwydr tua brig yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Er mai dim ond dau bwynt oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar ddechrau’r prynhawn roedd Luton rhy gryf i’r Alltudion a chwasant fuddugoliaeth gymharol gyfforddus yn y diwedd.
Roedd Casnewydd yn ddi guro mewn naw gêm cyn wynebu Luton ond roedd y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond pum munud diolch i Luke Wilkinson.
Manteisiodd Luke Rooney ar gamgymeriad gan gan gôl geidwad Casnewydd, Jamie Stephens, i ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail gyfnod.
A chwblhaodd Jake Howells y sgorio yn eiliadau olaf y naw deg wrth i’r Saeson ennill yn gyfforddus yn y diwedd.
Mae Casnewydd yn aros yn y safleoedd ail gyfle er gwaethaf y canlyniad, maent yn y seithfed safle.
.
Luton
Tîm: Tyler, Harriman, McNulty, Wilkinson, Griffiths, Whalley (Howells 72′), Doyle, Drury, Smith, Rooney (Lafayette 81′), Cullen
Goliau: Wilkinson 5’, Rooney 51’, Howells 90’
Cardiau Melyn: Doyle 27’, McNulty 29’, Cullen 80’
.
Casnewydd
Tîm: Stephens, Jones, Yakubu, Sandell, Klukowski, Byrne, Minshull (Howe 65′), Porter (Chapman 58′), Jackson, Zebroski, Jeffers
.
Torf: 8,383